Gyrwyr Proffesiynol
Mae gyrru'n waith peryglus. Os ydych yn gyrru'n rheolaidd fel rhan o'ch gwaith, rydych yn llawer mwy tebygol o fod mewn gwrthdrawiad.
A wyddech chi?
- Gwrthdrawiadau traffig wrth eich gwaith yw'r peth unigol sy'n achosi'r nifer fwyaf o farwolaethau yn y gwaith yn y DU.
- Mae ystadegau'n dangos bod cost flynyddol gweithwyr yn cael eu lladd neu eu hanafu ar y ffyrdd yn £3.5 biliwn.
- Mae pobl sy'n gyrru ceir cwmni yn y DU 49% yn fwy tebygol o fod mewn gwrthdrawiad na'r gyrrwr cyffredin*.
*Yr Adran Drafnidiaeth – An in-depth study of work related traffic accidents, 2005
Awgrymiadau ar gyfer gyrwyr proffesiynol
- Mae gyrwyr cerbydau cwmni – LGV neu PCV, fan neu gar – i fod i wybod y terfyn cyflymder cenedlaethol ar gyfer eu math nhw o gerbyd ar wahanol fathau o ffyrdd – a chadw ato!
- Ni ddylai cyflogwyr sydd ag un neu fwy o gerbydau'n gweithio fel rhan o'u busnes roi gweithwyr mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddynt oryrru i wneud gwaith mewn amser afresymol.
- Nid yw goryrru'n rhan o unrhyw fusnes ... dydi pwysau gwaith ddim yn esgus! Credwn fod atal goryrru'n llawer gwell ffordd o ateb y broblem nag erlyn. I brofi hynny, mae gennym restr o leoliad pob camera diogelwch yng Nghymru. Ewch i'r adran Chwilio am Gamerâu i gael rhagor o wybodaeth. Rydym yn gwneud ein gorau i annog pobl i yrru'n fwy diogel ac i addysgu pobl sy'n trefnu cerbydau cwmni a'u gyrwyr am beryglon goryrru a'r cosbau a roddir ... ond mae'n rhaid i CHI ein helpu!
Mae gennym Becyn Gyrwyr Proffesiynol i roi rhagor o wybodaeth i gyflogwyr a gweithwyr. Gallwch ei lawrlwytho neu gysylltu â ni i archebu pecyn.
Lawrlwytho Pecyn Gyrwyr Proffesiynol