Go Safe

Ffeithiau Yswiriant

Ffeithiau Yswiriant

Os ydych yn yrrwr ifanc, mae pris yr yswiriant yn uchel ar y gorau ar ôl i chi basio'ch prawf. Ond bydd y pris yn codi'n sylweddol os cewch bwyntiau ar eich trwydded am oryrru.

Un ffordd o helpu i gadw pris yr yswiriant yn is yw mynd ar gwrs Passplus / Pass Plus Cymru. Mae Passplus / Pass Plus Cymru yn gynllun a gefnogir gan gwmnïau yswiriant, y Llywodraeth a'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA).

Ei nod yw'ch helpu i fod yn well gyrrwr ac felly fod yn llai tebygol o gael damwain.

Pwyntiau

  • Goryrru = 3-6 pwynt
  • Gyrru trwy olau coch = 3 phwynt
  • Peidio â dweud pwy oedd yn gyrru pan ddigwyddodd trosedd = 6 phwynt
  • Gyrru'n ddiofal = 3-9 pwynt
  • Gyrru heb yswiriant = 6-8 pwynt
  • Peidio ag aros ar ôl damwain = 5-10 pwynt
Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page