Go Safe

Sut i Beidio â Chael Tocyn

Sut i Beidio â Chael Tocyn

Wrth arafu, gallech gadw
Wrth arafu, gallech gadw'ch arian, eich trwydded a hyd yn oed eich bywyd

Efallai fod hyn yn swnio'n amlwg - dim ond un ffordd sydd 'na o beidio â chael eich dal yn goryrru - sef gyrru o fewn y terfyn cyflymder bob amser.

Os ydych yn cadw o fewn y terfyn pan fyddwch yn meddwl bod camera cyflymder gerllaw ac yn ei anwybyddu bryd arall, mae'n bosib y cewch eich dal ac rydych yn fwy tebygol o fod mewn damwain.

Helpwch ni i wneud y ffyrdd yn fwy diogel i bawb.

Nid eich dal chi'n goryrru yw ein nod. Ein gobaith ni yw y byddwch yn cadw golwg ar eich cyflymder ac yn gyrru'n ddiogel.

Pethau i'w gwneud bob amser

  • Cynllunio'ch taith a gadael digon o amser i gyrraedd y pen draw
  • Gyrru ar gyflymder sy'n addas ar gyfer y ffordd a'r tywydd
  • Peidio â chynhyrfu a pheidio â mynd i ffraeo â gyrwyr eraill

Awgrymiadau

  • Cadwch lygad ar y cloc cyflymder
  • Os oes goleuadau stryd, mae'n debygol bod terfyn cyflymder o 30mya
  • Os oes goleuadau stryd ond bod y terfyn yn uwch na 30mya bydd arwyddion ailadrodd yn nodi'r terfyn cyflymder ar gyfer y darn hwnnw o'r ffordd
  • Dewiswch gêr isel i reoli cyflymder eich cerbyd. Bydd hyn yn eich helpu i gadw o fewn y terfyn cyflymder ac i stopio'n gynt os bydd raid
  • Gadewch bellter o ddwy eiliad rhyngoch chi a'r cerbyd o'ch blaen
Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page