Mae gyrru ar draffyrdd yn golygu mwy o draffig a chyflymder uwch. Dyma gyngor i'ch helpu i gael taith ddiogel:
- Gofalwch fod eich cerbyd mewn cyflwr digon da i deithio cyn cychwyn
- Os ydych yn gyrru'n bell, cofiwch gymryd egwyl yn aml
- Cadwch ar y chwith ac eithrio pan fyddwch yn pasio rhywbeth
- Os byddwch yn pasio nifer o gerbydau arafach, efallai y bydd yn ddiogel aros yn y lôn ganol neu'r lôn allanol yn lle symud i mewn ac allan yn aml.
- Cadwch eich pellter
- Gwyliwch eich cyflymder: y terfyn cyflymder ar gyfer ceir, beiciau modur, cerbydau nwyddau ysgafn a bysus a choetshus llai na 12m o hyd ar draffyrdd yw 70mya; Y terfyn cyflymdra ar gyfer cerbyd sy'n tynnu carafan neu drelar, HGVs, lorïau cymalog a bysus neu goetshus dros 12 m o hyd ar draffyrdd yw 60mya.
- Dim ond mewn argyfwng y dylech ddefnyddio'r llain galed. Os bydd angen i chi stopio am ryw reswm arall – i ddarllen map neu ddefnyddio'ch ffôn symudol efallai – tynnwch i mewn i orsaf wasanaethau.
- Byddwch yn arbennig o ofalus os oes gwaith ar y ffordd: arafwch a mynd i'r lôn gywir mewn digon o bryd. Canolbwyntiwch ar y ffordd o'ch blaen, nid y gwaith; cadwch at y terfyn cyflymder a chadwch ddigon y tu ôl i'r cerbyd o'ch blaen rhag ofn bod ciwiau yn y tu blaen.