Pobl Eraill sydd ar y Ffordd
Byddwch yn ofalus os byddwch yn:
Cario teithwyr:
- Gofalwch fod pawb yn gwisgo gwregys diogelwch cyn cychwyn
- Dywedwch wrthynt am fod yn dawel os ydynt yn swnllyd ac yn tynnu'ch sylw
- Canolbwyntiwch ar gyrraedd yn ddiogel yn hytrach na cheisio creu argraff wrth droi corneli'n gyflym, pasio ceir eraill ac ati
- Gofalwch eich bod yn effro ac mewn cyflwr i ganolbwyntio ar y daith
- Cadwch o fewn y terfynau cyflymder
- Peidiwch â gyrru ar ôl yfed alcohol neu gymryd cyffuriau
Beicwyr:
- Cofiwch y gallai beicwyr symud yn sydyn, yn enwedig os bydd yn wyntog neuu os bydd wyneb y ffordd yn wael
- Gwyliwch nad oes beicwyr ar yr ochr fewn pan fyddwch yn troi i'r chwith
- Cadwch olwg am feicwyr cyn agor drws y car
- Byddwch yn ofalus pan fydd beicwyr yn troi i'r dde
- Peidiwch a gwasgu heibio i feicwyr – rhowch ddigon o le iddynt, o leiaf hanner lled car
- Peidiwch â dallu beicwyr – dipiwch eich golau fel y byddech yn ei wneud â char
- Peidiwch â gwylltio pan fydd beicwyr yn mynd tua chanol y ffordd – mae'n rhaid iddynt osgoi draeniau a thyllau a chael eu gweld wrth gyrraedd y gyffordd â ffyrdd ochr
Cerbydau araf:
- Byddwch yn ofalus os oes cerbydau araf ar y ffordd tra byddwch yn gyrru.