Go Safe

Gyrru yn y Deyrnas Unedig

Gyrru yn y Deyrnas Unedig

COFIWCH y rheolau hyn wrth yrru yn y Deyrnas Unedig:
 

  • Rhaid i chi yrru ar y chwith. Byddwch yn arbennig o ofalus wrth droi i'r dde.
  • Talwch sylw i bob arwydd a beth maent yn ei olygu – yn enwedig ar gyffordd.
  • Ar gylchfannau, rhowch flaenoriaeth i draffig sy'n dod o'r dde, os nad yw'r marciau ar y ffordd yn dweud fel arall. Gyrrwch o gwmpas y gylchfan yr un ffordd â'r cloc a rhowch arwydd eich bod yn troi i'r chwith wrth ddod at eich allanfa.
  • Dim ond mewn argyfwng y dylech ddefnyddio llain galed y draffordd. Defnyddiwch eich goleuadau rhybudd. Defnyddiwch ffôn argyfwng gerllaw i alw am gymorth.
  • Mae rheolau yfed a gyrru yn wahanol ym mhob gwlad. Felly, y peth gorau yn y DU yw peidio ag yfed o gwbl os ydych yn gyrru.
  • Rhaid i chi a'ch teithwyr wisgo gwregysau diogelwch os oes rhai – yn seddau blaen a seddau ôl y cerbyd. Dylid rhoi plant ifanc mewn seddau diogel sydd wedi'u gosod yn iawn.
  • Cadwch olwg am y terfynau cyflymder. Gall y terfyn fod yn is mewn rhai llefydd – edrychwch am yr arwyddion.
  • Peidiwch â defnyddio'ch ffôn symudol wrth yrru. Mae hyn yn anghyfreithlon yn y DU.
  • Os byddwch mewn damwain, mae'n rhaid i chi stopio a rhoi'ch enw, eich cyfeiriad a manylion eich yswiriant i'r gyrrwr/gyrwyr eraill sydd yn y ddamwain. Hefyd, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r heddlu os bydd rhywun wedi'i anafu.
Chwilio am Gamerâu

Chwilio am safleoedd camerâu diogelwch yng Nghymru.

Cwestiynau Cyffredin

Chwilio am ateb. Ewch i'r Cwestiynau Cyffredin.

Link to home page