Mae yn erbyn y gyfraith cael:
- Teiars car â thrwch y wadn wedi treulio i lai na 1.6mm;
- Cyfuniad o deiars haenau rheiddiol a chroes-haen;
- Teiars â gormod neu ddim digon o wynt ynddynt;
- Teiars â thoriadau, lympiau, chwyddiadau neu rwygiadau;
- Y math anghywir o deiars ar gerbyd neu ôl-gerbyd.
Archwilio dyfnder trwch y wadn:
Mae dangosyddion traul ar y rhan fwyaf o deiars. Fel rheol mae chwech neu fwy o asenau bach ar draws gwaelod y prif rigolau. Pan fydd wyneb y wadn yn wastad â'r asennau hyn, mae angen newid y teiar.
Mesur gwasgedd y teiars:
Edrychwch yn eich llawlyfr neu holwch yn y garej neu'r lle teiars beth yw'r gwasgedd gorau ar gyfer eich cerbyd chi.
Dylech fesur y gwasgedd o leiaf bob pythefnos a dim ond pan fydd y teiars yn oer. Bydd hyd yn oed daith fer i'r garej leol yn cynhesu'r teiars gan godi'r gwasgedd.