Os byddwch yn dal cerbyd argyfwng yn ôl, gallai rhywun farw.

Nid yw'n anghyffredin i gerbyd argyfwng ymddangos yn sydyn y tu ôl i chi tra byddwch yn gyrru. Fodd bynnag, mae'n bwysig peidio â mynd i banig ac i gofio'r pethau a ganlyn:
- Rhowch arwydd a thynnwch i mewn os yw'n ddiogel – cadwch olwg am gerddwyr neu feicwyr.
- Ceisiwch adael cymaint o le ag y gallwch fel y gall y cerbyd argyfwng basio'n ddiogel.
- Efallai y bydd cerbydau eraill yn dilyn, felly cymerwch eich amser wrth ailgychwyn.