GanBwyll yw’r bartneriaeth fwyaf yn y DU sy’n cynnwys 28 partner cyfartal, Llywodraeth Cymru, y 22 awdurdod unedol yng Nghymru, y 4 heddlu a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi. Maent hefyd yn gweithio’n agos iawn â’r pedwar Consortia Trafnidiaeth Ranbarthol, Grwpiau Diogelwch Ffyrdd. Mae’r holl bartneriaid yn cydweithio i gyflwyno dull integredig i wella diogelwch ffyrdd gyda’r nod parhaus o leihau anafiadau ar y ffyrdd yng Nghymru.